Rhif y ddeiseb: P-05-937

Teitl y ddeiseb: Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wella’r mesurau amddiffyn i gramenogion a gwahardd yr arfer creulon o ferwi cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati yn fyw.

 

Mae sŵolegwyr wedi darganfod bod cimychiaid a chramenogion eraill, yn wahanol i fodau dynol, yn METHU â mynd i ‘sioc’, felly mae taflu nhw i botaid o ddŵr BERWEDIG yn peri iddynt ddioddef yn hwy. Pan fydd anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol, yn dioddef poen eithafol, mae’r system nerfol yn ymdopi drwy stopio gweithio. Mae gwyddonwyr wedi darganfod ei bod yn cymryd hyd at 45 eiliad i gimychiaid a chrancod farw pan gânt eu taflu i botaid o ddŵr BERWEDIG (sef rhywbeth a fyddai’n hollol annerbyniol ar gyfer anifail ag asgwrn cefn fel buwch neu fochyn). I roi persbectif i’r mater, os cânt eu datgymalu, gall y system nerfol barhau i weithio am hyd at awr.

 

Nod Deddf Lles Anifeiliaid yw amddiffyn anifeiliaid, gan ddeall bod creaduriaid ymdeimladol yn gallu teimlo poen, ac mae dyletswydd foesol arnom i BEIDIO â pheri dioddefaint. O dan y Ddeddf mae’n drosedd peri dioddefaint diangen i unrhyw anifail, o ran eu cadw ac ar adeg eu lladd. Mae’n golygu bod modd erlyn pobl neu sefydliadau sy’n esgeuluso neu gam-drin anifeiliaid ‘gwarchodedig’. Mae ‘anifeiliaid a ffermir’, pysgod ac ymlusgiaid oll yn cael eu diogelu dan y Ddeddf hon. Ond nid felly y mae yn achos infertebratau megis crancod, cimychiaid, cimychiaid afon a chorgimychiaid.

 

At hynny, daethpwyd o hyd i gramenogion byw ar werth, yn aros eu tynged ar badelli iâ, wedi’u pacio a’u rhwymo’n dynn mewn tanciau neu blastig i’r cwsmer eu lladd gartref. . Yn y Swistir, mae berwi cimwch yn fyw yn cael ei ystyried yn weithred o greulondeb wrth anifail.  Erbyn hyn mae’n rhaid i bobl y Swistir stynio neu ladd anifeiliaid cyn eu berwi, ac ni cheir cadw cimychiaid yn fyw ar iâ.

 

Dylid ehangu Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys cramenogion, gan gynnwys cimychiaid, crancod, corgimychiaid, cimychiaid afon ac ati.

 

 


1.        Y cefndir    

Mae “cramenogion dectroed” yn derm ar gyfer rhywogaethau cramenogion gan gynnwys cimychiaid, crancod, cimychiaid afon a chorgimychiaid. Yn y DU nid oes dim canllawiau na deddfwriaeth ar ladd cramenogion dectroed mewn modd trugarog. Gellir gwerthu cramenogion dectroed yn fyw i’w lladd gartref neu mewn sefydliadau bwyd. Gellir lladd drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys eu berwi’n fyw, eu hoeri mewn rhewgell (cyn eu berwi’n fyw), eu boddi mewn dŵr croyw, eu datgymalu, eu trydaneiddio (cyn eu coginio), neu drwy ddulliau mecanyddol i dorri eu nerfau.  

Ym mis Hydref 2015, adroddodd y cyfryngau newyddion yn y DU bod archfarchnad yn gwerthu crancod byw a oedd wedi’u lapio i’w crebachu a’u cadw yn eu hunfan.

Mae nifer o faterion lles wedi’u nodi ar gyfer cramenogion dectroed yn y diwydiant bwyd, gan gynnwys rhai dulliau a ddefnyddir i’w lladd. Mae’r grŵp ymgyrchu Crustacean Compassion (Tosturi i Gramenogion) yn nodi berwi’n fyw, oeri mewn rhewgell cyn eu berwi, boddi mewn dŵr croyw a’u torri / datgymalu’n fyw fel dulliau lladd creulon. Gan gyfeirio at eu berwi’n fyw, mae’n dyfynnu tystiolaeth gan Roth a Øines (2010) sy’n amcangyfrif y gall cranc bwytadwy wedi’i ferwi’n fyw aros yn ymwybodol am o leiaf dri munud.

Mae Deiseb Change.org sy’n galw am gynnwys cramenogion mewn deddfwriaeth lles anifeiliaid wedi casglu tua 50,000 o lofnodion.

1.1.            Deddfwriaeth Lles Anifeiliaid

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn diffinio anifail fel “creadur ag asgwrn cefn, heblaw dyn”. Mae hyn yn golygu na chaiff infertebratau fel crancod a chimychiaid eu cynnwys o dan y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth o dan adran 1 (3)(4) y caiff awdurdodau cenedlaethol priodol “ymestyn y diffiniad o ‘anifail’ er mwyn cynnwys infertebratau o unrhyw ddisgrifiad ... os yw’r awdurdodau’n fodlon, ar sail tystiolaeth wyddonol, bod anifeiliaid o’r math dan sylw yn gallu profi poen a dioddefaint”.

Pan ddaeth y Ddeddf Lles Anifeiliaid i rym, argymhellodd y Pwyllgor Dethol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Senedd y DU, y dylid cynnwys cramenogion, ond gwrthododd Llywodraeth y DU ar y pryd, gan ddweud bod angen rhagor o dystiolaeth.

Fodd bynnag, yn 2005 nododd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop greaduriaid dectroed fel anifeiliaid Categori 1 lle maer dystiolaeth wyddonol yn dangos yn glir bod anifeiliaid yn y grwpiau hynny yn gallu profi poen a thrallod”.

Ni chaiff creaduriaid dectroed ychwaith eu gwarchod gan Ddeddfwriaeth Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (WATOK) yn y DU.

Ym mis Rhagfyr 2017, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gynnig arfaethedig Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Dedfrydrwydd), cyflwynodd grwpiau lobïo yr achos dros gynnwys cramenogion dectroed yn y ddeddfwriaeth. Ar adeg ysgrifennu hwn, nid yw’r Bil wedi symud ymlaen, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth “cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu”.

1.2.          Ymchwil

Mae Crustacean Compassion yn sefydliad sy’n ymgyrchu dros drin cramenogion dectroed yn drugarog. Lluniodd y sefydliad bapur briffio yn amlinellu ei safbwynt ar dystiolaeth ategol. Mae’r papur briffio yn cynnwys cyfeiriad at waith yr Athro Robert Elwood o Brifysgol Queen’s ym Melffast. Roedd gwaith ymchwil tîm yr Athro Elwood yn canolbwyntio’n bennaf ar wahaniaethu rhwng ymateb atgyrch syml i ysgogiad niweidiol a phrofiad anghymhellol, a deimlir, o boen. Roedd y gwaith ymchwil yn edrych ar ymatebion ffisiolegol, atgyrchau amddiffynnol, strwythurau biolegol ac ymddygiad mewn cramenogion. Nododd y papur briffio fod canlyniadau’r gwaith ymchwil wedi dangos bod creaduriaid dectroed yn dangos eu bod yn profi ysgogiad poenus, yn hytrach nag yn dangos ymateb atgyrch (Elwood andAppel 2009; Elwood 2012; Appel ac Elwood 2009a, 2009b; Magee and Elwood 2013; Magee ac Elwood 2016).

Hefyd lluniodd Crustacean Compassion bapur briffio technegol ar gaethiwed a lles cramenogion ar gyfer Llywodraeth y DU.

1.3.          Ymhle y mae creaduriaid dectroed yn cael eu hamddiffyn?

Mae yna nifer o wledydd ledled y byd lle mae creaduriaid dectroed yn cael eu hamddiffyn:

§  Awstria: Mae Deddf Lles Anifeiliaid Awstria (2004) yn amddiffyn cramenogion o dan ganllawiau hwsmonaeth cenedlaethol. Rhaid stynio cramenogion cyn eu lladd;

§  Seland Newydd: newidiodd Deddf Lles Anifeiliaid ym 1999 y diffiniad o anifeiliaid yn Neddf Diogelu Anifeiliaid (1960) Seland Newydd i gynnwys crancod, cimychiaid a chimychiaid yr afon;

§  Norwy: Roedd Deddf Lles Anifeiliaid Norwy (2010) yn darparu amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer creaduriaid dectroed, gan gynnwys eu lladd, eu cyfyngu a’u cludo;

§  Y Swistir: caiff creaduriaid dectroed eu hamddiffyn gan yr Ordnans Lles Anifeiliaid (2008). Ers mis Mawrth 2018, rhaid stynio cramenogion dectroed cyn eu lladd. Maent hefyd yn cael eu hamddiffyn wrth eu cludo, ac mae gofyniad iddynt gael eu cadw mewn amgylchedd naturiol;

§   Awstralia: yn Awstralia, mae lles anifeiliaid yn faes deddfu ar lefel y wladwriaeth. Caiff cramenogion dectroed eu cynnwys mewn deddfwriaeth lles anifeiliaid yn Victoria er 1997, yn Ne Cymru Newydd er 1998, yn Nhiriogaeth y Gogledd er 1999, yn Queensland er 2001, ac ym Mhrifddinas-dir Awstralia er 2000; ac

§  Yr Eidal: yn 2007 dyfarnodd uchaf lys yr Eidal na ddylid cadw cimychiaid ar rew mewn ceginau bwytai gan fod yr arfer yn achosi dioddefaint annerbyniol iddynt. Mae talaith Reggio Emilia wedi gwahardd yr arfer o ferwi cimychiaid yn fyw.

1.4.          Lladd trugarog

Dywed Compassionate Crustaceans ei bod yn ymarferol bosibl ac yn fasnachol hyfyw i ladd cramenogion dectroed yn drugarog. Mae hefyd yn credu mai gweithwyr proffesiynol hyfforddedig a thrwyddedig yn unig ddylai ladd cramenogion dectroed, a hynny’n unol â chanllawiau statudol. Mae’n dweud na ddylid gwerthu anifeiliaid byw i ddefnyddwyr i’w lladd gartref, oherwydd gallent ddioddef yn ddifrifol wrth gael eu cludo, eu storio a’u lladd.  Yn ei adroddiad, mae Compassionate Crustaceans yn amlinellu nifer o ddulliau o ladd trugarog, gan gynnwys:

§  Stynio trydanol: mae tystiolaeth yn awgrymu, o ganlyniad i’r dull hwn bod crancod bwytadwy yn anymwybodol o fewn eiliad ac nad yw’n achosi dim straen mesuradwy ychwanegol y tu hwnt i’r hyn a achosir wrth eu trin. Defnyddir sawl peiriant (fel y Crustastun a Stansas) ar hyn o bryd gan gwmnïau gan gynnwys Waitrose, Tesco a Whole Foods; a

§  Dulliau mecanyddol: mae’r dull hwn yn cynnwys oeri, ac yna dinistrio canol y nerf (ganglia) yn fecanyddol gyda chyllell finiog yn unol â bioleg unigryw pob rhywogaeth. Gall y dulliau hyn gymryd rhagor o amser i sicrhau bod creaduriaid cramennog yn anymwybodol, yn enwedig os yw’r dull yn cael ei wneud yn amhriodol neu’n frysiog.

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Pwyllgor ar 6 Ionawr mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Dywed:

Rwy’n deall bod y dystiolaeth wyddonol yn dangos y gall cramenogion deimlo rhywbeth tebyg i boen. Fodd bynnag, nid yw’r diffiniad o boen wedi’i ddatrys eto ac mae’r dystiolaeth yn brin hyd yma.

 ymlaen i ddweud bod Llywodraeth y DU yn ystyried arferion o’r fath a allai achosi poen neu ddioddefaint diangen mewn infertebratau morol nad ydynt o fewn cwmpas y Deddf Lles Anifeiliaid (2006). Dywed y dylai rhagor o ymdrechion gwyddonol gael eu neilltuo i ymchwilio i fater poen mewn infertebratau a’i bod hi wedi gofyn i’w swyddogion ddiweddaru eu gwybodaeth o ran datblygiadau gwyddonol yn hyn o beth, a gweithio’n agos gyda Gweinyddiaethau eraill y DU i ystyried hyn ymhellach.

3.     Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid oes dim ystyriaeth wedi’i roi i’r mater yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.